Skip to main content

House for sale

Stryd Dinbych, Llanrwst
House
Added > 14 days

Key information

TenureFreehold
Council taxAsk agent
Mobile signal
EEO2ThreeVodafone

Features and description

  • Tenure: Freehold
Siop amlwg yng nghanol tref farchnad ynghyd â dau fflat hunangynhwysol, ystafelloedd cyfarfod/swyddfeydd a cwrt yn y cefn. Busnes llwyddiannus sefydlog ers cryn amser.

English version available.

Ar werth o achos ymddeoliad. Siop Lyfrau Cymraeg annibynnol hefyd yn gwerthu nwyddau swyddfa, cardiau ac anrhegion gyda cyfle gwych i ehangu ac ennyn incwm pellach. Siop eang ar y llawr isaf gyda ffenestri mawr yn wynebu stryd brysur, mynediad annibynnol i’r cefn ac i’r ystafelloedd cyfarfod /swyddfeydd gyda ceginau a thai bach yn hwylus. Un fflat deulawr, dwy lofft, a fflat arall annibynnol gyda 1 llofft. Y cyfan wedi eu hadnewyddu yn ddiweddar ac yn cynnig llety o safon. Argymhellir dod i ‘w gweld.

Siop Ar Y Llawr Isaf: - Yn cynnwys gwres canolog.

Ardal Blaen Y Siop : - 11.4 x 4.7 (37'4" x 15'5") -

Rhan Gefn Y Siop : - 5.4 x 4.17 and 4. x 4.6 (17'8" x 13'8" and 13'1" x - 3 gris i ardal storio:

Ardal Storio Fach : - 3.75 x 2. (12'3" x 6'6") - Cwpwrdd storio mawr yn rhan ohono.

Drws A Grisiau I: -

Ystafell Gyfarfod /Swyddfa: - 7.93 x 6.91 (26'0" x 22'8") - Ffenestri uPVC gwydriad dwbl allan i’r cefn; cwpwrdd storio mawr cynwysedig.

Cegin Gefn (Yn Cynnwys Ty Bach ): - 3.91 x 3.3 (12'9" x 10'9") - Drws cefn yn galluogi mynediad annibynnol.

Cegin: Cwpwrdd isod a sinc a cwpwrdd ar y wal.

Ty Bach : dyfrgist isel i’r Ty bach; basn ymolchi, addas i gadair olwyn.
Mae “ramp” i hwyluso mynediad tu allan i’r drws.

Drws O Gefn Y Siop I: -

Cegin: - 5. x 3. (16'4" x 9'10") - Cypyrddau modern- isod ac ar y wal; sinc; ffenestri a drws uPVC gwydriad dwbl allan i’r cwrt yn y cefn.

Drws A Grisiau I: -

Swyddfa : - 5.8 x 2. ( extending to 2.9) (19'0" x 6'6" ( exten - Drws uPVC gwydriad dwbl yn rhoi mynediad annibynnol i’r ystafell ; boeler gwres canolog.

Grisiau Dur Wedi Ei Hadeiladu Yn Arbennig Tu Allan -

Mynedfa I : - Fflat eang deulawr 2 lofft.

Cyntedd : - Rheiddiaduron ; ffenestri uPVC gwydriad dwbl.

Cegin Fwyta : - 3.76 x 4.71 (12'4" x 15'5") - Cypyrddau isod a chypyrddau wal,

Ardal fwyta: ffenestri uPVC gwydriad dwbl i’r blaen.

Lolfa: - 5.67 x 4.72 (18'7" x 15'5") - Ffrâm lle tân ; 2 reiddiadur , ffenestr uPVC gwydriad dwbl i flaen yr adeilad.

Ystafell Ymolchi : - Bath cornel ; Ty bach; bidet; basn ymolchi a chwpwrdd oddi tanodd ; cwpwrdd yn y wal a boeler ynddo.

Grisiau O’R Cyntedd Mewnol I : -

Pen Grisiau Eang Ar Yr Ail Lawr: - 3.58 x 4.65 (11'8" x 15'3") - Ffenestr uPVC gwydriad dwbl i flaen yr adeilad ; cwpwrdd yn rhan o’r ystafell.

Llofft 1: - 3.11 x 5. (10'2" x 16'4") - Cwpwrdd dillad a storfa ar hyd un wal.

Llofft 2: - 4. x 3.9 (13'1" x 12'9") -

Fflat 2: - O’r cwrt - drws uPVC gwydriad dwbl a grisiau mewnol yn arwain i ben grisiau bach.

Stafell Fyw A Chegin Agored: - 6.73 x 4.13 (22'0" x 13'6") - Ardal fyw - ffenest Velux gwydriad dwbl, rheiddiadur dwbl ,pwynt teledu.

Cegin fwyta - Cypyrddau gwaelod a silffoedd wal, sinc sengl, cysylltiadau ar gyfer peiriant golchi, lle i oergell, pwynt trydan i‘r popty a’r canopi echdynnu uwchben. Cwpwrdd cadw brwshys.

Ystafell Ymolchi : - 1.77 x 2.21 (5'9" x 7'3") - Ciwbicl cawod , basn ymolchi a Ty Bach , rheilen dyweli crôm. Waliau wedi eu teilio a ffan echdynnu.

Llofft 1: - 3.73 x 3.36 (12'2" x 11'0") - Rheiddiadur dwbl, ffenestr uPVC gwydriad dwbl a ffenest Velux hefyd. Mynediad i’r gofod yn y to.

Gwasanaethau : - Dwr prif gyflenwad, carthffosiaeth, trydan a nwy i bob rhan.

I Weld Yn Llanrwst: - Drwy apwyntiad gyda’r asiant Iwan M Williams, 5 Heol Ddinbych, Llanrwst, ffôn[use Contact Agent Button], e-bost [use Contact Agent Button]

Nodyn Gan Yr Asiant: - Mae’r fflatiau ar hyd o bryd wedi eu gosod (6 neu 12 mis) a thelir rhent yn fisol Byddai’n bosib cael meddiant gwag petai prynwr am fyw yno.

Mae’r busnes yn un sefydlog ac ar gael fel rhan o’r gwerthiant. Mae’r pris gwerthu yn cynnwys yr adeilad a’r rhan fwyaf o’r gosodiadau. Y stoc ar gael wedi prisiad.

Prawf O Gyllid: - Er mwyn ufuddhau i reolau rhwystro gwyngalchu arian mae Iwan M Williams Gwerthwyr Tai yn gofyn fod unrhyw brynwr yn rhoi prawf o hunaniaeth a prawf o gyfeiriad cyfredol.
Mae’n rhaid cyflwyno’r dogfennau canlynol ym mhob achos:
DOGFENNAU ADNABOD: llun adnabod, fel pasbort neu drwydded yrru cyfredol y DU
PRAWF O GYFEIRIAD : bil cyfleustodau , neu gyfriflen banc neu gymdeithas adeiladu, bil cerdyn credyd neu unrhyw fath o ID a gafwyd o fewn y 3 mis blaenorol sy’n rhoi prawf o breswylio yn y cyfeiriad sy’n derbyn gohebiaeth.

Lleoliad
Lleolir yn ganolog ym mhrif ardal siopa canol y dref. Mae Llanrwst yn dref farchnad draddodiadol a hanesyddol yn Nyffryn Conwy gydag ystod o’r siopau arferol a gwasanaethau.
Betws y Coed 4 milltir, Llandudno 14 milltir.

Property information from this agent

Visit agent website

About this agent

Iwan M Williams - Llanrwst
Iwan M Williams - Llanrwst
Charlton Stores, 5 Denbigh Street Llanrwst LL26 0LL
01492 467955
Full profileProperty listings
Located in the heart of beautiful Snowdonia, Iwan M Williams, Estate Agents has been established by Iwan M Williams, ARICS, FNAEA. With over 13 years working with the largest estate agency groups in the area, reaching the highest level of management and running successful offices Iwan has decided to return to his home town. The Iwan M Williams, Estate Agent's main aim is to provide a traditional service in a classic but modern manner. On our website you can use:- The Team - To contact our staff who are always available to assist you;Our Area - To find out more about the truly beautiful area that we cover;For Sale - To examine the properties we currently have available, or to register a search for a specific property type;Selling - If you're thinking of selling a property;Contacts - To examine some useful online resources.
... Show more

See more properties like this

*Disclaimer and call rate information...